Sefydlwyd Technegol yn 2017 ac mae'n gwmni teuluol wedi ei lleoli yng Ngheredigion sydd yn cyflogi tîm o dechnegwyr, gweithwyr llawrydd a staff prosiect.
Mae'r cwmni yn elwa o gael unigolion allweddol o’r tîm gyda phrofiad o weithio yn y diwydiant digwyddiadau ers dros 25 mlynedd. Mae'r profiad o weithio gyda gwahanol gwmnïau, sefydliadau, digwyddiadau ac unigolion dros gyfnod hir wedi rhoi hyder, gwybodaeth a chreadigrwydd i'r tîm a set sgiliau eang.
Mae Technegol gyda rhwydwaith eang o bartneriaid ac yn cyd-weithio ar lefel lleol a chenedlaethol ar lefel reolaethol, creadigol a thechnegol. Rydym yn falch iawn o weithio gyda chleientiaid, technegwyr, gweithwyr llawrydd, contractwyr, sefydliadau, gwyliau a grwpiau cymunedol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn hynod o falch bod pob aelod o'n staff yn siarad Cymraeg fel gallwn gynnig gwasanaeth yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg neu'n ddwyieithog.