Rydym yn gwmni sydd yn ymfalchio yn ein gallu i gynnig gwasanaeth unigryw, gyda gwybodaeth arbenigol ac offer o'r radd flaenaf.
Mae pob aelod o'n staff yn siarad Cymraeg felly rydym yn hynod o falch o fedru cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Dyma rhai o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig:
Rheoli a threfnu digwyddiadau
Rheoli Prosiectau a Chynhyrchiadau
Darparu gwasanaeth ac offer Sain a Goleuo
Adeiladu setiau a stondiau arddangos
Ymgynghori
Rheoli Adeiladau
Marchnata a hyrwyddo digwyddiadau
Chwilio am rhywbeth arall? Rydym yn hyblyg iawn gyda'r math o wasanaeth gallwn gynnig er mwyn gwireddu eich syniad neu brosiect. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.